Dewch i ni gipio’r adegau perffaith, yr emosiynau go iawn, a’r prydferthwch pur mae eich diwrnod priodas yn ei gynnig.
Mae’r diwrnod perffaith yn dechrau gyda chi; eich gwreiddioldeb, eich hoffterau a’ch steil chi, ac yn eu tro, mae’r holl ffactorau hyn yn ysbrydoli bob dim dwi’n ei wneud.
Fel Fidiograffydd Priodasau Proffesiynol yng Ngogledd Cymru, byddaf yno i ddal a chofnodi’r achlysur hudolus.
Priodasau
Mae’n anrhydedd a phleser cael gweithio gyda’r niferoedd o barau priod dros y blynyddoedd i gofnodi eu diwrnod arbennig.
"We and our wedding guests were all blown away by Mathew’s professionalism and friendly personality! He made everything seem seamless and comfortable, 100% recommended!"