Cwestiynau cyffredin priodasau
Efallai eich bod chi eisiau gwybod ychydig rhagor am y ffordd dwi’n gweithio, yr offer dwi’n eu defnyddio a’r amser dwi’n treulio yn eich priodas… felly dyma atebion i rai cwestiynau sy’n codi yn aml.
Ydych chi’n teithio?
Ydw! Dwi’n gweithio o fewn radiws o 50 milltir o Wrecsam, Gogledd Cymru heb unrhyw gostau ychwanegol. Mae yna gostau ychwanegol ar gyfer digwyddiadau neu briodasau sy’n golygu teithio yn bell neu aros dros nos. Gall y costau hyn amrywio yn dibynnu ar leoliad y digwyddiad ac argaeledd.
Pa mor hir ydi hi’n cymryd i gynhyrchu ffilm?
Dwi’n gwybod, dwi’n gwybod! Dach chi bron a marw eisiau gweld y ffilm orffenedig ac i ail-fyw eich diwrnod priodas, a gyda hyn mewn golwg rydw i’n anelu i ddarparu’r ffilmiau gorffenedig o fewn 12 wythnos ar ôl y sesiwn ffilmio olaf. Yn ystod adegau prysur y flwyddyn gall hyn cymryd ychydig hirach, ond byddaf yn rhoi gwybod i chi am gynnydd eich ffilm trwy gydol y broses.
Pa offer ydych chi’n eu defnyddio?
Dwi’n defnyddio camerâu Canon DSLR gydag amrywiaeth o lensys. Mae gennyf fi sadwyr camera wrth yn sicrhau fy mod i’n gallu ffilmio eich diwrnod priodas mewn diffiniad uchel hyfryd yn gwneud bob symudiad yn llyfn. Dwi’n defnyddio amrywiaeth o feicroffonau proffesiynol a chynnil er mwyn sicrhau bod y sain yn cael ei recordio’n glir ac yn broffesiynol ar eich diwrnod priodas gyda chyn lleied o ymyrraeth a phosib. Rwy'n diweddaru fy offer yn rheolaidd ac yn dewis i ddefnyddio technoleg newydd cyn gynted a bod modd, sy'n golygu y byddwch chi'n cael y ffilm o'r ansawdd uchaf.
Pa mor hir fyddech chi’n aros yn fy mhriodas?
Rydw i’n cychwyn ffilmio dwy awr cyn eich seremoni fel fy mod i’n gallu ffilmio paratoadau a manylion y briodferch ar gyfer y diwrnod. Rydw i’n aros trwy’r dydd ac yn gadael ychydig ar ôl y ddawns gyntaf. Os ydych chi angen i mi aros yn hwyrach yna gofynnwch ac mi fedrwn ni drefnu hynny.
Sut byddwch chi’n darparu fy ffilm? ydw i’n derbyn DVD?
Bydd eich ffilm orffenedig yn cael ei ddarparu ar ffurf ddigidol mewn HD cyflawn ar Yriant USB mewn bocsys cyflwyno i chi gadw. Gall eich ffilmiau hefyd cael eu lawr lwytho, eu gwylio a’u rhannu ar bob dyfais trwy ddolen ddigidol. Dydw i ddim yn darparu gwaith ar DVDs gan nad ydyn nhw’n cefnogi ffurfiau HD.
Ydw i’n cael dewis cerddoriaeth fy hun ar gyfer y ffilmiau?
Mae bob ffilm yn cael ei golygu gan ddefnyddio cerddoriaeth drwyddedig er mwyn osgoi unrhyw drafferth wrth rannu ffilmiau ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae cost y drwydded wedi’i gynnwys yn eich pecyn. Gan weithio gydag arddull y ffilm byddaf yn dewis cerddoriaeth briodol i sgorio eich ffilm.
Os nad ydych chi wedi dod o hyd i ateb i’ch cwestiwn, mae croeso i chi gysylltu.
Cysylltwch i wybod
rhagor, i gadw dyddiad
neu i holi
unrhyw gwestiynau